Cynhaliwyd cyngerdd anffurfiol yn ddiweddar yng nghartref Elinor Bennett er mwyn codi arian tuag at Cyfeillion CGWM.

Bu’r cerddorion Julie & Andreas o Norway yn ymweld รข Chymru er mwyn derbyn hyfforddiant arbenigol ar gerddoriaeth Cymru gan Elinor yng Nghanolfan Gerdd William Mathias.

Mae Julie yn delynores proffesiynol ac mae Andreas yn canu’r Bandoneon ac yn perfformio Cerddoriaeth Byd.

Cafwyd perfformiadau hefyd gan Elinor Bennett ar y delyn deires, a Medi Evans sy’n astudio’r delyn gyda Elinor.