Mae elusen Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias yn darparu cymorth ariannol allweddol i CGWM drwy gyfrwng grantiau, ynghyd â chefnogi ei fyfyrwyr drwy gyfwng ei Gronfa Fwrsari a Chronfa Offerynnau Mary Costello.

Cefnogi

Yn flynyddol mae Pwyllgor y Cyfeillion yn codi bron iawn i £10,000 drwy gyfrwng tâl aelodaeth, rhoddion a drwy gynnal amryw o ddigwyddiadau i godi arian. Mae’r pwyllgor hefyd yn weithredol mewn cefnogi gweithgareddau y Ganolfan drwy gynnig cymorth ymarferol drwy stiwardio yn ystod ei ddigwyddiadau.

Ymunwch fel Aelod o Gyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias heddiw am £10 y flwyddyn a helpwch ni i gefnogi cerddorion y dyfodol.

Y Gronfa Fwrsari

Sefydlwyd Cronfa Fwrsari Cyfeillion CGWM yn 2007 er mwyn cynorthwyo pobl ifanc talentog gyda chostau hyfforddiant a chyrsiau cerddoriaeth o’r safon uchaf a geir yng Nghanolfan Gerdd William Mathias. Caiff y gronfa ei weinyddu can Cyfeillion CGWM a CGWM.

Ymuno â'r Cylchlythyr

Ymunwch efo Cylchlythyr Canolfan Gerdd William Mathias i dderbyn y diweddaraf am newydddion weithgareddau Canolfan Gerdd William Mathias a Chyfeillion CGWM.

Y Newyddion Diweddaraf

Neges gan Gadeirydd newydd Cyfeillion CGWM: Clive Wolfendale

Neges gan Gadeirydd newydd Cyfeillion CGWM: Clive Wolfendale

Fel Cadeirydd newydd Cyfeillion CGWM, rwy'n falch iawn o gyflwyno fy hun ac annog eich cefnogaeth barhaus o waith gwych Canolfan Gerdd William Mathias wrth feithrin addysg gerddorol ar draws ein rhanbarth. Ar ôl symud i Ogledd Cymru o Fanceinion yn 2001, treuliais y...

Darlith gan Dafydd Wigley: ‘Murray the Hump – Perthyn i Gangstar’

Darlith gan Dafydd Wigley: ‘Murray the Hump – Perthyn i Gangstar’

Ar yr 8fed o Dachwedd 2024, fe roddodd Dafydd Wigley ddarlith hynod ddifyr dan y teitl ‘Murray the Hump: Perthyn i Gangstar’, yn olrhain hanes y cymeriad lliwgar Llywelyn Humphreys. Roedden ni’n ddiolchgar iawn i Lowri o gwmni Lingo am wirfoddoli ei hamser i ddarparu...

Ocsiwn addewidion Llwyddiannus!

Ocsiwn addewidion Llwyddiannus!

Ar y 5ed o Orffennaf 2024, fe gynhaliwyd Ocsiwn Addewidion yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon. Digwyddiad oedd hwn wedi ei drefnu i godi arian at ddau achos arbennig: Cyfeillion CGWM a Ward Alaw Ysbyty Gwynedd. Bydd elw’r noson yn cael ei rannu rhwng y ddau achos. Fel...