Cefnogi

Mae elusen Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias yn darparu cymorth ariannol allweddol i CGWM drwy gyfrwng grantiau, ynghyd â chefnogi ei fyfyrwyr drwy gyfwng ei Gronfa Fwrsari a Chronfa Offerynnau Mary Costello.

Yn flynyddol mae Pwyllgor y Cyfeillion yn codi bron iawn i £10,000 drwy gyfrwng tâl aelodaeth, rhoddion a drwy gynnal amryw o ddigwyddiadau i godi arian. Mae’r pwyllgor hefyd yn weithredol mewn cefnogi gweithgareddau y Ganolfan drwy gynnig cymorth ymarferol drwy stiwardio yn ystod ei ddigwyddiadau.

Anogwch eraill i gefnogi!

Rhannwch wybodaeth am Gyfeillion CGWM efo’ch ffrindiau a theulu dros gyfryngau gymeithasol neu ebost!

Ymuno â’r Cyfeillion

Ymunwch fel Aelod o Gyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias heddiw am £10 y flwyddyn a helpwch ni i gefnogi cerddorion y dyfodol.

Fel aelod byddwch anfon gwybodaeth i chi am ddigwyddiadau codi arian bydd y Cyfeillion yn ei dderbyn ynghyd â newyddion cyffrous am weithgareddau Canolfan Gerdd William Mathias.

Ymaelodi fel Aelod

Lawrlwythwch y ffurflen aelodaeth isod a’i ddychwelyd atom ni i ymuno fel Aelod.

Gwneud Rhodd

Os ydych chi eisoes yn Aelod Cyfeillion ac yn dymuno ein cefnogi ymhellach, beth am wneud rhodd?

Mae’n bosib gwneud rhodd drwy siec yn ddyledus i ‘Cyfeillion CGWM’, neu ddrosgwlyddiad banc, neu mae modd gwneud rhodd arlein.